Ymadawiad Arthur — T. Gwynn Jones
Dyn a Derwen DYN A DERWEN. HWYRDDYDD haf, dan wybren glir odidog, Bywyd ar ei oreu yn y fan, Chware'r ydoedd plentyn bychan gwridog Dan ganghennau derwen fawr y llan. Chware wnaeth y plentyn bach nes blino, Yna distaw orwedd ar y llawr; Gwelodd un o frigau'r pren yn crino— Meddai, "Faint yw'th oed di, dderwen fawr?" Hwyrddydd haf, dan wybren glir dymherus, Bywyd eto fyth yn llenwi'r fan, Eiste'r ydoedd henwr yn flinderus Dan ganghennau derwen fawr y llan. Mawr yr oedd yr henwr wedi blino, Distaw y gorweddodd ar y llawr; "Ble," eb ef, "mae'r brigyn oedd yn crino? Ieuanc ydwyt fyth, O dderwen fawr!" Heno, huna'r henwr yno'n dawel, Mae ei garreg fedd yn ddarnau'n awr; Ond mae'r pren yn dawnsio yn yr awel— Beth yw dyn i ti, O dderwen fawr! Hydref , 1902. Nodiadau Y Truan VI.—Y TRUAN. UN o dô isaf y werin oedd ef, O deulu trueni a thlodi; Y cyntaf peth a gofiai oedd llef Anghenus o'i gylch yn cyfodi. Gwybu ddioddef ym more 'i ddydd, Dioddef gan oerni ac eisiau; Gwael oedd ei raen a gwelw oedd ei rudd, A than ei ddau lygad yn gleisiau. Trist ydyw canu ei fywyd ef, Bardd hagrwch yw'r prydydd a'i cano; Budr oedd ei gartref ynghors y dref, A phoenus yw darllen am dano. Eto 'roedd rywbeth yn debyg i ddyn, Ac ynddo ef unwaith bu enaid; A'r prydydd a ganai fywyd ei hun, Nid allai anghofio 'i uchenaid. Gwelodd ei dad yngafael y nych Yn marw gan dorri ei galon, A'i fam yn dihoeni 'n druan ei drych Ynghanol ei phoen a'i gofalon. Yntau, gadawyd e'n druan ei ffawd I fyw ar drugaredd cymdogion— Oes mae calonnau ynghytiau'r tlawd, Rhowch goel ar un ŵyr, gyfoethogion. Gwelwyd e'n mynd i ganlyn y plant Yn droednoeth mewn newyn a rhyndod, A'i lygaid dyfnion yn rhoddi cant Am ofid mud, athrist plentyndod. Dysgwyd iddo yn ysgol y plwy Gan rai heb adnabod cywilydd, Fod Duw yn y nef yn dad iddynt hwy, A dynion yn frodyr i'w gilydd. Tybiodd mai rhyfedd na roddai y Tad, A'r brodyr, wrth weled eu gwyched, Damed neu lymed i'r gwael eu hystad I dorri eu newyn a'u syched. Methodd a deall, tyfodd yn llanc, A'i waed gan wrthryfel yn berwi; Cardod ar ddamwain ni thorrai ei wanc, Ond parai i'w ysbryd chwerwi. Cyfaill ni feddai efe yn y byd. Ac eto cyfeillach a fynnai; A'i galon yn chwerw ac unig, o hyd Am rywun a'i carai, newynnai. Cyfarfu â benyw wrth rodio'r ystryd, A honno fel yntau yn rhynnu; Truan a brwnt oedd ei bywyd i gyd, Ond glân oedd ei henaid er hynny. Er saled ei diwyg, glân oedd ei phryd, A gwelwyd ei glendid yn fuan; Trachwant goludog a phleser y byd A'i dug oddiar draserch y truan. Darfu ei obaith yntau i gyd. Ac ni chafwyd neb i'w waredu, Cerddodd hyd lwybrau duon y byd A'i galon o hyd yn caledu. Ni roddwyd iddo mo'r atgo mwyn Am ienctid iach a di bryder, Y fendith sy'n lleddfu llawer cwyn Ac yn rhoi yn y galon hyder. Drych o drueni oedd edrych yn ol, Ac edrych ymlaen yr un ffunud; Llithrodd dan rym y gynddaredd ffol Na phery ei phleser ond munud. Treiglodd i ganlyn ei ffawd yma a thraw Yn adyn heb gartref nac annedd, Trom ar gymdeithas dyn fu ei law, A bwriodd ei wenwyn i'w dannedd. Hithau Gymdeithas yn flin a'i troes O gyfyl ei thai a'i hystrydoedd, Er mai hyhi yn ei gwanc a roes Y cyfle a'i gwnaeth yr hyn ydoedd. Cododd ei law yn nhrueni rhyw hwyr Yn erbyn Cymdeithas a'i llawnder; Hithau a'i lladdodd o'r diwedd yn llwyr, A galwodd y gwaith yn gyfiawnder. Gwelodd y gyfraith honno yn dwyn Eu bywyd oddiar ei rieni, Teimlodd ei phwys yn ei yrru'n ddi gŵyn I rodio hyd lwybrau trueni. Trengodd yn aberth i gyfraith ei wlad, Disgynnodd ei melltith hi arno; Ni chafwyd undyn i gofio 'i ystad, Ac eto, ystyried a'i barno. Nodiadau Y Gadlef Y GADLEF. GWYLIWN ein gwlad! Y mae gelyn yn y glyn; Arfau trais a brad Sy'n tyrfu dros y bryn. Clywn ar eu broch, Dacw elyn ar y bryn,— Dos a galw yn groch— Nid oes galon a gryn! Arthur! a ddaw Ar ein gwartha ryw ddydd. Na bo na llaw Na neb in a'u lludd? "Na ddaw," medd llais "Er a fo o glais, tra fo gledd I ymroddi dan får Am ryddid neu fedd!" Dylifant drwy y coed, Dolefant draw a'u cyrn, Ar adain y chwa Eu twrw ehed yn chwyrn. Dyrifau a Chywyddau. O! deffro, hen gledd,- Mae y dyffryn glân Is carnau eu meirch Yn ysgyrion mân! Owain! a ddaw Ar ein hanes ni ddydd Na bo na ilaw Na neb in a'u lludd? "Na ddaw!" medd llais O waelod y bedd, "Bri a chadw ein gwlad Tra fo braich a dynno gledd!" Eofn herio maent Ein holl faneri mwy, Pwy a drydd y gad Rhag eu hamled hwy? Clywch! dyna'u trwst, Ond nid awn dan eu traed, Heno hun eu llu Yn eu gwely gwaed! "Heno!" medd llais O waelod y bedd, "Bri a chadw ein gwlad Tra fo braich a dynno gledd!" Nodiadau Yr Hen Ffermwr II. CERDDI HEDDYW. I.—YR HEN FFERMWR. (CYFLWYNEDIG I STEPHEN REES AC ISAAC JONES). DAETH Dafydd Owen Gruffydd I fyw i Dy'n y Coed, Lawer blwyddyn faith yn ol, Yn bump ar hugain oed. Yr oedd yn wr gosgeiddig, Llawn dwylath oedd o hyd; Cyhyrrog oedd, ac ar ei gefn 'Doedd unrhyw bwys ddim byd. Yr oedd ei wallt yn loewddu. A llawn modrwyau mân, A gwritgoch oedd ei ddwyrudd ef A'i lygaid fel y tân. Er nad oedd ganddo arian Er na roed iddo ddysg, 'Doedd gwmni na buasai ef Yn frenin yn eu mysg. Os celyd oedd ei ddwylaw, Os truan oedd ei ffawd, 'Roedd gwaed uchelwyr Cymru gynt Yngwythi'r ffermwr tlawd. Ni byddai neb a dynnai Ar faes unionach cwys, Nac yn y fedel undyn byw Na threchai wrth ei bwys. Fe wyddai draddodiadau A chwedlau fwy na mwy, A llawer cerdd a chywydd per Nad oes a'u hadfer hwy. Gan hardded oedd ei olwg Fe swynodd lawer merch, Ac ar y deca 'i gwedd i gyd Rhoes yntau 'i fryd a'i serch. Ni bu lawenach diwrnod Ar ddeuddyn hoff erioed Na'r dydd y dygwyd merch Y Graig Yn wraig i Dy'n y Coed. A gwelwyd tri o feibion A thair o ferched glân Cyn hir yn gwneud y lle yn llon A'u mwynion gampau mân. A chaled fu y llafur I fagu'r teulu bach, A'r byd yn ddu pan fyddent glaf A gwyn pan fyddent iach. Ar noswaith erwin iasoer Yn nhrymder gaeaf du, Daeth angau heibio'r teulu llon A chreulon iawn a fu. Fe wlychodd ei grafangau Ynghochwaed calon serch, Gan adael yno ofid taer Am anwyl chwaer a merch. Ym mynwent fach ddi addurn LY capel llwm g